Wal Wen Nadolig Pontio // Christmas White Wall, Pontio
Ym mis Hydref, fe ges i wahoddiad i fynychu Gŵyl Gerameg yn ninas Yixing, yn Nhalaith Jiangsu, Tsieina. Yn stod yr un cyfnod, fe ges i gomisiwn i greu film fer yn dathlu’r Nadolig ar gyfer wal wen ‘Pontio’ ym Mangor. Yn ddigon naturiol felly, fe gafodd y comisiwn ei ysbrydoli gan y faith i Tseina.
Mae’r plât yn ymdebygu i gynllun plât y ‘Willow Pattern’, sef cynllun a gafodd ei greu yn fwriadol mewn steil Tsieiniaidd ar gyfer cynulleidfaoedd ym Mhrydain ar ddiwedd yr 18fed ganrif. Mae’r darlun sydd wedi’i osod ar fy mhlât i yn dangos golygfa o hen bwll clai yn Yixing wedi ei orchuddio ac eira. Golygfa ddiwydiannol oedd i’w gweld yma ond mae’r lleoliad bellach wedi’i drawsnewid i fod yn barc cyhoeddus. Mae’r clai a gafodd ei dyllu allan o’r man yn y darlun yn borffor ei naws ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer creu tebotau bychan gwerthfawr. Mae’r plât yn pwyso ar bapur wal sy’n astudiaeth o batrwm cymylau mewn carreg y gwelais i yn ninas Nanjing.
Yn yr animeiddiad, fe welir lanterni Tsieiniaidd yn goleuo ac yn pylu yn yr eira. Wrth i chi godi’r gwpan las sydd ar y plinth o’ch blaen, fe hedfanir robin goch i ganol y plât ac yna mae’n hedfan i ffwrdd unwaith eto.
Mi fydd y darn i’w weld yn Pontio dros y Nadolig.
//////////////////////////////
In October, I was invited to attend the Yixing Ceramics Festival with the CPA in Yixing, Jiangsu Province, China. During the same period, I was commissioned to create a short Christmas film for the reception area of ‘Pontio’, an arts centre in Bangor, Gwynedd. Due to the timing of the piece, the commission was naturally influenced by my time in China.
The central image is a blue plate that resembles the style of the 'Willow Pattern’ (an 18th century design that was created in a Chinese style for the British public).
The drawing on the plate is a view of an old clay pit in Yixing covered in snow. Until recently, the location was an industrial scene but the landscape has now been transformed into a beautiful park for the public. The clay that was dug out of this landscape is known as a purple clay and is mainly used to make precious slab-built teapots. The plate rests on a wallpaper design which is a repeat pattern of cloud design that I saw in stone in Nanjing city.
In the animation, Chinese lanterns are seen lighting up and fading in the snow. As you lift the blue cup that sits on the plinth in front of the animation, a robin flies in to the centre of the plate and then flies away again.
The piece can be seen in Pontio over Christmas.